Cowbois Rhos Botwnnog
New
About
Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi manylion taith y gaeaf hwn i gefnogi eu chweched albwm stiwdio, 'Haul Bach'.Ers cael eu ffurfio gan y tri brawd o Ben Ll…
Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi manylion taith y gaeaf hwn i gefnogi eu chweched albwm stiwdio, 'Haul Bach'.Ers cael eu ffurfio gan y tri brawd o Ben Llyn - Iwan, Aled a Dafydd Hughes - yn 2005, mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi ennill clod a sylw ehangach, gan gael eu chwarae ar BBC Radio 2, Radio 3 a 6 Music, a derbyn sawl enwebiad am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Enillodd eu halbwm blaenorol, 'Mynd a'r Ty am Dro' (2024), Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.Ar yr albwm newydd, 'Haul Bach', mae'r band yn gwyro fwy nag erioed i'r canu gwlad sydd wedi bod yn rhan o'u swn ers y cychwyn cyntaf.
Ysgrifennwyd y casgliad hwn tra bu Iwan yn gwella yn sgil stroc a gafodd ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2024. Bu'n ysgrifennu'n gyson trwy gydol y cyfnod anodd hwn, a bu'n rhan fawr o'i ymdrechion i wneud synnwyr o'r digwyddiad. Er hyn, nid record drom na lleddf mo hon; dyma ddathliad o fywyd a chariad, ac i dderbyn y da a'r drwg fel ei gilydd.Hyd y gwyddai'r band, dyma'r unig record canu gwlad Gymraeg ei hiaith am gael stroc, neu unrhyw argyfwng meddygol mae'n debyg. Mae Iwan yn gwneud yn dda, diolch i chi, ac yn gwylio defaid o ffenestr gefn y ty.Ar y daith hon, bydd Iwan yn perfformio ar ei ben ei hun mewn lleoliadau llai, agos-atoch gyda dwy set bob noson yn tynnu o 'Haul Bach' yn ogystal a chatalog helaeth y band.Dyma'r daith ddiweddaraf fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru; prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good, Gwilym Bowen Rhys, a Lleuwen Steffan.Cowbois Rhos Botwnnog have announced details of a tour this winter to support their sixth studio album, 'Haul Bach'.Since being formed by three brothers from the Llyn Peninsula - Iwan, Aled and Dafydd Hughes - in 2005, Cowbois Rhos Botwnnog have carved out a distinct sound blending influences from country, folk and rock, with most lyrics written and performed in Welsh. The band has earned critical acclaim, national airplay on BBC Radio 2, Radio 3 and 6 Music, and multiple Welsh Music Prize nominations. Their previous album, 'Mynd a'r Ty am Dro' (2024), won Welsh Language Album of the Year at the National Eisteddfod.On their new album, 'Haul Bach', the band lean further than ever before into the Country and Western which has been integral to their sound since the very beginning.This collection of songs was written whilst lead singer Iwan was recovering from a stroke, which happened onstage during a festival performance. In an attempt to make sense of things during this difficult time, Iwan wrote songs, and it became a vital part of his recovery. Despite this, these songs are not melancholy, nor are they heavy; they represent a celebration of life and love - a moving meditation on accepting life's moments, good and bad, with humour and grace.To the best of their knowledge, 'Haul Bach' is the only Welsh language Country and Western album about having a stroke (or any medical emergency, for that matter!). Iwan is doing very well, thanks for asking, and continues to enjoy watching the sheep from the back window of the house.On this tour, Iwan will be performing solo at smaller, intimate venues with two sets each evening drawing from both 'Haul Bach' as well as the band's extensive back catalogue.This tour is the latest in a partnership between PYST, Mentrau Iaith Cymru and the Arts Council of Wales' Night Out scheme; a project which has already seen successful tours by HMS Morris, The Gentle Good, Gwilym Bowen Rhys, and Lleuwen Steffan.Nos Sadwrn Saturday 31.10.26
Ty Tawe, SA1 4EW
Organiser
Ty Tawe
Accommodation nearby
Available hotels and Airbnbs near Ty Tawe