Taith Sioe Gerdd Calon
Ny
Om
Taith Calon i deulu a ffrindiau. (Unrhyw un dan 18 angen bod gyda oedolyn cyfrifol)Teithio lawr ar fws moethus Dydd Sadwrn 29/8/2026 a gwylio Sioe 2pm ac yna ar…
Taith Calon i deulu a ffrindiau. (Unrhyw un dan 18 angen bod gyda oedolyn cyfrifol)Teithio lawr ar fws moethus Dydd Sadwrn 29/8/2026 a gwylio Sioe 2pm ac yna aros yn y Future Inns, Bae Caerdydd (Modd ychwanegu Brecwast) - yna diwrnod yn Gaerdydd, Dydd Sul a gadael am adref tua 3pm.Yng Nghaerdydd fis Awst 2026, mi fydd Cwmni Theatr yr Urdd yn llwyfannu Calon; sioe gerdd newydd sbon yn llawn o ganeuon eiconig a ysgrifennwyd gan Caryl Parry Jones dros y degawdau.Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru, yr ail lwyfan fwyaf yn Ewrop, ar 27, 28 a 29 Awst 2026.
Hon fydd sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd, ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad yn 2022 diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.Mi fydd cast o dros 100 o bobl ifanc, rhwng 15 a 25 mlwydd oed ac o bob cwr o Gymru, yn perfformion y sioe gyda band byw. Bydd cyfleoedd hefyd i bobl ifanc weithio ar bob elfen or gwaith llwyfan, yn cynnwys gwaith technegol, cynllunio a gwisgoedd. Caiff y bobl ifanc eu mentora trwyr broses o greur sioe gan artistiaid a chriw llwyfan proffesiynol yn y maes.Mi fydd Calon yn llawn dop or caneuon cyfarwydd a hynod boblogaidd ysgrifennwyd gan Caryl dros 40 mlynedd, yn cynnwys yr anthem eiconig, Calon a rhai o ganeuon Eden. Yn cydweithio Caryl ar y sioe fydd ei chefneither ar gantores Non Parry; y Cyfarwyddwr Symud a Choreograffydd Elan Isaac ar actores, cantores a chyflwynwraig Miriam Isaac; sef dwy o ferched Caryl.Rydym yn falch iawn i fod yn partneriu gyda Theatr Cymru i lwyfannur ddrama gerdd arbennig hon. Fel rhan or bartneriaeth, bydd Rhian Blythe - Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru - yn cyfarwyddo Calon, gan ddod i phrofiad helaeth fel cyfarwyddwr ac actor i'r perfformwyr ifanc.
Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru
Bute Place Cardiff Bay, CF10 5AL Cardiff
Arrangør
Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru
Overnatting i nærheten
Se ledige hoteller og Airbnbs i nærheten av Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru